Mae cefnogwyr yn aros i glywed a fydd y gêm rhwng Caerdydd a Leicestet City yn cael ei chwarae ddydd Sadwrn (Tachwedd 3), yn dilyn marwolaeth cadeirydd y clwb ddydd Sadwrn.

Roedd Vichai Srivaddhanaprabha yn un o bump o bobol a fu farw mewn damwain hofrennydd tu allan i stadiwm King Power am tua 8.30yh nos Sadwrn (Hydref 27) ar ôl gem yn erbyn West Ham.

Mae heddlu Caerlŷr wedi cadarnhau mai Vichai Srivaddhanaprabha, dau aelod o’i staff – Nursara Suknamai a Kaveporn Punpare – a’r peilot Eric Swaffer a’i bartner Izabela Roza Lechowicz oedd ar yr hofrennydd.

Does dim cadarnhad hyd yn hyn a fydd y gêm rhwng Caerdydd a Leicester City yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn yn cael ei gohirio.

Mae Leicester City eisoes wedi cadarnhau eu bod yn gohirio eu gêm Cwpan Carabao yn erbyn Southampton a’u gêm yn erbyn Feyenrood yr wythnos yma.