Mae adroddiadau’n awgrymu bod Clwb Pêl-droed Real Madrid yn awyddus i benodi cyn-reolwr Abertawe, Roberto Martinez i’r brif swydd.

Daeth yr adroddiadau heddiw (dydd Sul, Hydref 28) cyn gêm El Clasico rhwng Real Madrid a Barcelona.

Ar ôl colli heddiw o 5-1, y disgwyl yw y bydd Julen Lopetegui yn cael ei ddiswyddo.

Mae cyn-reolwr Chelsea, Antonio Conte, a hyfforddwr tîm ‘B’ Real Madrid, Santiago Solari hefyd yn cael eu hystyried.

Mae lle i gredu bod Roberto Martinez, sydd hefyd wedi rheoli Wigan ac Everton, wedi teithio i Barcelona ar gyfer y gêm yn y Camp Nou.

O dan ei arweiniad, cipiodd Gwlad Belg y trydydd safle yng Nghwpan y Byd eleni.

Cawson nhw eu curo gan Gymru o 3-1 yn rownd wyth olaf Ewro 2016.