Mae Sam Vokes wedi arwyddo cytundeb i barhau i chwarae i glwb Burnley am dair blynedd arall.

Fe fydd ymosodwr 29 oed Cymru yn aros gyda’r Clarets tan o leiaf 2021 dan y cytundeb newydd.

Daw’r cytundeb newydd ar gefn sawl perfformiad cryf wrth i’r Cymro sgorio dwy gôl yn ei dair gêm ddiweddaraf tros y clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Drwyddi draw mae Sam Vokes wedi sgorio 55 o goliau mewn 219 o gemau i Burnley, ac 11 gôl mewn 60 gêm tros ei wlad.

Fe sgoriodd y gôl hwyr wrth i Gymru golli 4-1 yn erbyn Sbaen yn y gêm gyfeillgar ddiweddar yng Nghaerdydd.