Wrth i dîm pêl-droed Reading deithio i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn (3 o’r gloch), fe fydd yn ffon fesur dda i weld pa mor bell mae Abertawe wedi dod o dan Graham Potter, flwyddyn ers iddyn nhw ddiswyddo Paul Clement, rheolwr y gwrthwynebwyr, fis Rhagfyr y llynedd.

Bryd hynny, roedd tranc yr Elyrch eisoes wedi dechrau, ac roedden nhw ar waelod y tabl ar ôl ennill dim ond tair gêm ers dechrau’r tymor.

All neb anwybyddu’r llwyddiant a ddaeth o dan y Sais ar ddechrau ei gyfnod wrth y llyw yn ail hanner tymor 2016-17. Fe ddihangodd yr Elyrch mewn modd a fyddai wedi denu sylw Harry Houdini ar ôl cyfnod cythryblus i’r Americanwr Bob Bradley, a barodd 85 diwrnod yn unig, a’r tîm ar waelod y tabl.

Ar ôl achub yr Elyrch, roedd y dasg o baratoi’r tîm ar gyfer tymor newydd sbon yn 2017-18 yn un hollol wahanol i Paul Clement o’i gymharu â chynllunio sut y bydden nhw’n goroesi ar ddiwedd y tymor blaenorol.

Fe fethodd yn y pen draw, ac erbyn iddo fe gael ei ddiswyddo yn niwedd 2017, hanner ffordd drwy’r tymor, roedd yr ysgrifen ar y mur i Abertawe. Roedd gan Carlos Carvalhal fynydd i’w ddringo rhwng mis Ionawr a’r haf eleni, ac er bod y canlyniadau tua’r diwedd ymhell o fod yn ddigon da i aros yn yr Uwch Gynghrair, fe lwyddodd i wyrdroi negatifrwydd a thactegau amddiffynnol Paul Clement i ryw raddau.

Ac mae hanes yn ailadrodd ei hun i’r Sais yn Reading, sy’n ail ar hugain yn y tabl – o fewn y tri isaf – ar ôl ennill 12 pwynt yn unig, sgorio 19 gôl ac ildio 23 mewn 14 o gemau. Mae pwysau arno fe eisoes, ac mae’n mynnu nad yw’n barod i gerdded i ffwrdd o’r sefyllfa – yr un sentiment â’r adeg pan oedd e’n dechrau dod o dan bwysau yn Abertawe.

Pennod newydd o dan Graham Potter

I’r gwrthwyneb, mae adferiad yr Elyrch wedi dechrau o dan Graham Potter, sydd wedi arwain ei dîm i’r degfed safle ar ôl ennill 20 pwynt mewn 14 o gemau. Maen nhw wedi sgorio 15 gôl, ac wedi idio 11.

Dyw eu record o flaen y gôl ddim yn wych, ond mae’r dull o chwarae’n well o lawer ac mae’r ysbryd yn y garfan yn arbennig o dda, a nifer o’r to iau hefyd yn dechrau torri trwodd – rhywbeth roedd Paul Clement wedi’i wfftio lawer gwaith.

Ddydd Sadwrn, fe fydd yn frwydr rhwng tîm amddiffynnol Paul Clement sydd ar i lawr, yn erbyn tîm creadigol Graham Potter sy’n brin o goliau ond sy’n dangos digon o awydd i’w creu.

O dan Paul Clement, cafodd nifer o chwaraewyr blaenllaw eu gwerthu – nid bai’r rheolwr o reidrwydd oedd hynny. Ond mae Graham Potter wedi dod i mewn gan fynnu bod ganddo fe fwy o reolaeth dros recriwtio chwaraewyr, rhywbeth sy’n dechrau talu ar ei ganfed.

Yr her i Graham Potter ym mis Ionawr, fel ei ragflaenwyr, fydd cadw ei afael ar rai o’r Cymry ifainc sy’n dechrau serennu.

Mae sôn eisoes fod Connor Roberts a Joe Rodon yn denu sylw timau yn yr Uwch Gynghrair. Roedd Graham Potter yn awyddus i bwysleisio yn ei gynhadledd wythnosol yr wythnos hon fod Roberts, y cefnwr de, yn rhan o “broses” yr Elyrch o godi i’r uchelfannau unwaith eto a’i fod yn “synnwyr cyffredin” y byddai’r clwb am iddo aros.

‘Un gêm ar y tro’

Ond am y tro, pwyll piau hi. Un gêm ar y tro yw neges Graham Potter o un wythnos i’r llall.

Fe ddaw’r gêm ddydd Sadwrn ar ôl wythnos gymysg i’r Elyrch. Ar ôl colli o 1-0 yn erbyn Aston Villa ddydd Sadwrn, taron nhw’n ôl nos Fawrth wrth guro Blackburn o 3-1. Dim ond un pwynt sydd rhyngddyn nhw a’r safleoedd ail gyfle bellach – ond mae traed y rheolwr yn solet ar y ddaear.

Ennill un (3-1 yn erbyn Millwall) a cholli un (2-1 yn erbyn Birmingham) yw hanes Reading dros yr wythnos ddiwetha’ hefyd. Dim ond triphwynt sy’n eu gwahanu nhw a gwaelod y tabl.

Fe allai’r gêm hon fod yn hollbwysig i’r naill dîm a’r llall, a’r hyn sy’n debygol o ddigwydd iddyn nhw yng ngweddill y tymor. Ac fe allai un a gyfrannodd at dranc yr Elyrch flwyddyn yn ôl ddylanwadu arnyn nhw o bell unwaith eto’r tro hwn.