Abertawe 3–1 Blackburn                                                                 

Cododd Abertawe i’r wythfed safle yn y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth yn erbyn Blackburn ar y Liberty nos Fawrth (Hydref 23).

Roedd yr Elyrch ar ei hôl hi ar yr egwyl cyn taro’ n ôl i’w hennill hi gyda thair gôl yn yr ail hanner.

Cic o’r smotyn Charlie Mulgrew a roddodd yr ymwelwyr ar y blaen, yr amddiffynnwr yn sgorio o’r smotyn yn dilyn trosedd Kyle Naughton ar Amari’i Bell.

Yna, trodd y gêm ar ei phen i waered mewn cyfnod o bum munud hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Adlamodd ergyd Jay Fulton oddi ar y postyn, ac yna gôl-geidwad Blackburn, David Raya, cyn canfod cefn y rhwyd.

Ac roedd y tîm cartref ar y blaen wedi i ddau Gymro ifanc gyfuno ar gyfer yr ail, Connor Roberts yn gorffen yn dda wedi gwaith creu Daniel James.

Rhoddodd Bersant Celina yr eisin ar y gacen gyda gôl daclus bum munud o ddiwedd y naw deg.

Mae’r tri phwynt yn codi tîm Graham Potter saith lle i’r wythfed safle yn y tabl, bwynt yn unig o’r safleoedd ail gyfle.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Roberts, van der Hoorn, Carter-Vickers, Olsson (Fulton 45’), Naughton, Carroll (Fer 45’) Grimes, James, McBurnie (Baker-Richardson 90’), Celina

Goliau: Raya [g.e.h.] 64’, Roberts 68’, Celina 85’

Blackburn

Tîm: Raya, Bennett, Lenihan (Rodwell 12’), Mulgrew, Bell, Evans (Rothwell 71’), Smallwood, Reed, Dack, Armstrong, Graham (Brereton 59’)

Gôl: Mulgrew [c.o.s.] 26’

Cardiau Melyn: Mulgrew 19’, Bennett 42’

Torf: 18,035