Bury 1–1 Casnewydd                                                                        

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Gasnewydd deithio i Gigg Lane i wynebu Bury yn yr Ail Adran nos Fawrth.

Aeth Bury ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan rwydodd cyn chwaraewr Caerdydd, Nicky Maynard.

Felly yr arhosodd hi tan ddeg munud wedi’r egwyl pan unionodd Jamille Matt o groesiad Antoine Semenyo.

Roedd angen arbediad da gan Joe Day i atal Maynard rhag adfer mantais Bury ond fe ddaliodd Casnewydd eu gafael ar bwynt, pwynt sydd yn ddigon i’w cadw’n bedwerydd yn y tabl.

.

Bury

Tîm: Murphy, Aimson, Thompson, Stokes, Adams, O’Shea, Danns (Barjonas 85’), Mayor, McFadzen, Telford (Dagnall 66’), Maynard

Gôl: Maynard 24’

Cerdyn Melyn: Maynard 75’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, O’Brien, Demetriou, Hornby-Forbes, Willmott (Pring 85’), Bennett, Cooper (Semenyo 53’), Butler, Amond, Matt

Gôl: Matt 56’

Cerdyn Melyn: Demetriou 78’

.

Torf: 3,072