Mae rhestr gemau cyntaf Cwpan Lloegr wedi ei chyhoeddi.

Fe fydd Casnewydd yn mentro i Lundain i chwarae Heddlu’r Metropolitan, a Weston-super-Mare fydd gwrthwynebwyr Wrecsam os lwyddan nhw i drechu Harrogate yn eu hail gêm.

Cafodd Casnewydd daith anhygoel yn y gystadleuaeth y llynedd, a bydd disgwyl iddyn nhw wneud yn well eleni.

Fe gurodd dynion Michael Flynn Leeds yn y drydedd rownd cyn colli yn erbyn cewri Tottenham Hotspur yn y bedwaredd.

Ond er mai tîm di-gynhrair yw Heddlu’r Metropolitan nid yw gêm oddi cartref yn mynd i fod yn hawdd i Gasnewyd.

Os yw Wrecsam yn trechu Harrogate yn eu gêm heno (Hydref 23), bydd taith i Weston-Super-Mare, sy’n chwarae yng Nghynghrair Cenedlaethol De Lloegr.

Mi fydd gemau rownd gyntaf Cwpan Lloegr yn cael eu chwarae rhwng Tachwedd 9 a 12.