Crawley 4–1 Casnewydd                                                                 

Llithrodd Casnewydd allan o dri safle uchaf yr Ail Adran ar ôl colli’n drwm yn erbyn Crawley yn Stadiwm Broadfield brynhawn Sadwrn.

Aeth y tîm cartref ar y blaen o fewn y munud cyntaf gyda gôl Joe Maguire ac felly yr arhosodd pethau tan hanner amser.

Unionodd Jamille Matt i’r ymwelwyr o Gymru toc cyn yr awr wedi gwaith creu Antoine Semenyo.

Wnaeth hi ddim aros felly’n hir serch hynny wrth i Filipe Morais adfer mantais Crawley bum munud yn ddiweddarach gyda chic o’r smotyn wedi trosedd David Pipe ar Ollie Palmer.

Palmer ei hun a gafodd y nesaf gyda pheniad o groesiad George Francomb, cyn i’r eilydd, Ashley Nathaniel-George, sicrhau’r tri phwynt gyda gôl unigol dda.

Mae tîm Mike Flynn yn llithro i’r pedwerydd safle yn nhabl yr Ail Adran

.

Crawley

Tîm: Morris, Young, Connolly, Vincelot, Maguire (Doherty 67’), Francomb, Payne (Bulman 81’), Morais, Camara, Palmer, Gambin (Nathaniel-George 73’)

Goliau: Maguire 1’, Morais [c.o.s.] 64’, Palmer 72’, Nathianel-George 79’

Cardiau Melyn: Payne 51’, Connolly 53’, Morais 64’, Francomb 85’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, Franks, Demetriou, Butler, Cooper, Bennett, Amond, Sheehan (Harris 70’), Semenyo, Matt (Pring 81’)

Gôl: Matt 59’

Cerdyn Melyn: Butler 67’

Cerdyn Coch: Franks 82’

.

Torf: 2,157