Aston Villa 1–0 Abertawe                                                               

Colli fu hanes Abertawe wrth iddynt ymweld ag Aston Villa yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Roedd un gôl yn ddigon i’r tîm cartref ar Barc Villa, ymdrech gynnar Tammy Abraham o bawb, y blaenwr a dreuliodd y tymor diwethaf ar fenthyg gyda’r Elyrch.

Wyth munud yn unig a oedd ar y cloc pan beniodd Abraham i gefn y rhywd o groesiad Ahmed El Mohamady.

Yr ymosodwr a gafodd y cyfleoedd gorau i ddyblu mantais y tîm cartref hefyd ond cafodd un ergyd ei harbed yn dda gan Kristoffer Nordfeldt ac anelodd beniad rhydd dros y trawst.

Wnaeth yr Elyrch ddim cynnig llawer yn yr awr gyntaf ond gorffennodd yr ymwelwyr y gêm yn gryf gyda Jay Fulton a Connor Roberts yn gorfodi arbediadau da gan Orjan Nyland rhwng y pyst i Villa.

Ond dal eu gafael a wnaeth y tîm cartref wrth i Abertawe golli am yr ail gêm yn olynol, canlyniad sydd yn eu gadael yn bymthegfed yn y tabl.

.

Aston Villa

Tîm: Nyland, Hutton, Tuanzebe, Chester, Taylor, El Mohamady (Bolasie 64’), Bjarnason, McGinn, Adomah (Kodjia 74’), Grealish (Hourihane 83’), Abraham

Gôl: Abraham 8’

Cerdyn Melyn: McGinn 85’

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Rodon, van der Hoorn, Harries (James 50’), Roberts, Fulton, Fer (Grimes 70’), Olsson, McKay (Carroll 65’), Celina, McBurnie

Cerdyn Melyn: Rodon 27’

.

Torf: 41,326