Caerdydd 4–2 Fulham                                                                       

Enillodd Caerdydd am y tro cyntaf ers dychelyd i Uwch Gynghrair Lloegr wrth iddynt groesawu Fulham i Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Ar ôl sgorio pedair gôl yn unig yn eu hwyth gêm agoriadol, fe rwydodd yr Adar Gleision bedair mewn buddugoliaeth bwysig yn erbyn un o’r timau eraill tua gwaelod y tabl.

Mewn hanner cyntaf cyffrous, fe roddodd Andre Schurrle yr ymwelwyr ar y blaen wedi deg munud, yn crymanu ergyd hyfryd i’r gornel uchaf.

Unionodd Josh Murphy bethau i Gaerdydd o fewn pum munud, yn gorffen yn daclus heibio i Marcus Bettinelli yn y gôl.

Pum munud arall yn ddiweddarach ac roedd y tîm cartref ar y blaen, Bobby Reid yn manteisio ar lanast yn amddiffynnol i rwydo ei gôl gyntaf dros y clwb.

Ond roedd y sgôr yn gyfartal unwaith eto cyn yr egwyl diolch i Ryan Sessegnon, y cefnwr ifanc yn sgorio wedi cyd chwarae taclus gyda Alekandar Mitrovic.

Amddiffyn Fulham yw’r gwaethaf yn y gynghrair ac roedd hi’n hawdd gweld pam wrth i Callum Paterson fanteisio ar lanast yn y cwrt cosbi i adfer mantais Caerdydd toc wedi’r awr.

Roedd angen arbediad da gan Neil Etheridge i gadw’r tîm cartref ar y blaen, yn atal peniad cyn chwaraewr Abertawe, Alfie Mawson.

Ond roedd buddugoliaeth gyntaf y tymor yn ddiogel i’r Adar Gleision dri munud o ddiwedd y naw deg wedi i Kadeem Harris sgorio o groesiad Victor Camarasa.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Neil Warnock o waelod y tabl, allan o safleoedd y gwymp, i’r ail safle ar bymtheg.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morison, Bamba, Bennett, Camarasa, Gunnarsson (Richards 77’), Arter (Damour 86’), Murphy (Harris 82’), Reid, Paterson

Goliau: Murphy 15’, Reid 20’, Paterson 65’, Harris 87’

Cardiau Melyn: Gunnarsson 33’, Morrison 68’, Bamba 78’

.

Fulham

Tîm: Bettinelli, Chambers (Mawson 45’), Odoi, Ream, Le Marchand, Johansen (Vietto 82’), McDonald, Seri (Ayite 58’), Schurrle, Mitrovic, Sessegnon

Goliau: Schurrle 11’, Sessegnon 34’

Cardiau Melyn: Chambers 19’, McDonald 36’, Johansen 45’

.

Torf: 29,681