Dagenham & Redbridge 1–2 Wrecsam                                      

Mae Wrecsam yn ail yn nhabl Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar ôl trechu Dagenham & Redbridge ar Victoria Road brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Luke Summerfield o’r smotyn hanner ffordd trwy’r ail hanner i sicrhau’r tri phwynt i’r Dreigiau.

Aeth yr ymwelwyr o ogledd Cymru ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gydag ergyd Luke Young o bellter.

Roedd y sgôr yn gyfartal ar yr egwyl serch hynny wedi i Brad Walker droi’r bêl i’w rwyd ei hun ym munud olaf yr hanner.

Adferwyd mantais Wrecsam pan sgoriodd Summerfield o’r smotyn wedi trosedd Liam Gordon ar Kevin Roberts ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd.

Mae’r tri phwynt yn codi tîm Sam Ricketts dros Leyton Orient i’r ail safle yn y tabl, a gwahaniaeth goliau’n unig sydd bellach yn gwahanu’r Cymry a Salford ar y brig.

.

Dagenham & Redbridge

Tîm: Justham, Nunn (Kandi 79’), Pennell, McQueen (Munns 56’), Harfield (Reynolds 56’), Wright, Gordon, Bellamy, Robinson, Romain, Mullings

Gôl: Walker [g.e.h.] 45’

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Pearson, Maguire-Drew (Fondop-Talom 61’), Young, Summerfield, Carrington, Walker, Lawlor (Wright 41’), Beavon (Rutherford 77’), Pyke

Goliau: Young 43’, Summerfield [c.o.s.] 67’

.

Torf: 1,601