Casnewydd 2–1 Stevenage                                                            

Sgoriodd Antoine Semenyo yn yr wythfed munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm i gipio’r tri phwynt i Gasnewydd yn erbyn Stevenage ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Mae’r Alltudion yn aros yn agos i frig yr Ail Adran wedi gôl hwyr ddramatig y gŵr ifanc sydd ar fenthyg o Bristol City.

Cafwyd dechrau cyffrous i’r gêm hefyd wrth i foli Matty Dolan roi’r tîm cartref wedi dim ond 46 eiliad!

Felly yr arhosodd hi tan yr amser brifo ar ddiwedd yr hanner cyntaf pan unionodd Luther Wildin gyda pheniad o groesiad Steve Seddon.

Rheolodd Casnewydd yr ail hanner ond cafodd Seny Dieng gêm dda yn y gôl i Stevenage ac roedd hi’n ymddangos bod yr ymwelwyr yn mynd i ddal eu gafael ar bwynt.

Ond wedi oedi hir oherwydd anaf i Robbie Willmott, fe gipiodd Semenyo’r tri phwynt gydag ail gôl y tîm cartref, bron i gan munud wedi’r gyntaf!

Mae’r canlyniad yn cadw tîm Mike Flynn yn drydydd yn nhabl yr ail Adran.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Hornby-Forbes, Franks, Demetriou, Butler, Bakinson (Semenyo 57’) Bennett, Dolan, Willmott (Pipe77’), Matt, Amond

Goliau: Dolan 1’, Semenyo 90+8’

Cerdyn Melyn: Horny-Forbes 12’

.

Stevenage

Tîm: Dieng, Wildin, Cuthbert, Nugent, Seddon, Campbell-Ryce (Sonupe 85’), Timlin (Ferry 81’), Byrom, Kennedy (Reid 90+1’), Newton, Revell

Gôl: Wildin 45+1’

Cardiau Melyn: Timlin 18’, Newton

.

Torf: 3,126