Mae Ryan Giggs wedi cydnabod bod gêm neithiwr (nos Iau, Hydref 11) yn un “siomedig”, ond mae’n ffyddiog y bydd tîm Cymru “yn well” wrth fynd benben â Gweriniaeth Iwerddon nos Fawrth nesa’ (Hydref 16).

Fe gollodd Cymru’r gêm gartref yn erbyn Sbaen 1-4 yng Nghaerdydd, gyda’r ymwelwyr yn sgorio tair gôl o fewn yr hanner awr gyntaf

Roedd chwaraewr gorau Cymru, Gareth Bale, yn absennol oherwydd ‘lludded cyhyrau’, ond llwyddodd Sam Vokes a sgorio gôl gyda dim ond munud o’r gêm yn weddill.

“Derbyn heb gwyno”

Er gwaetha’r canlyniad, mae rheolwr tîm pêl droed Cymru tipyn yn fwy hyderus am y gêm Cynghrair y Cenhedloedd yn Nulyn nos Fawrth.

“Rhaid derbyn yr ergyd heb gwyno,” meddai Ryan Giggs. “A chwarae teg, y tro diwethaf yr oeddem ni yng Nghaerdydd chwaraeon ni’n wych.

“Beth sy’n dda am bêl-droed yw bod gêm nesa’ ar y gorwel bob tro. A dw i methu aros am hynny. Mi fyddwn ni’n well ar ddydd Mawrth.”