Wrth i’r ddwy wlad baratoi at gemau Cynghrair y Cenhedloedd wythnos nesaf, mi fydd hi’n ddiddorol gweld sut dimau mae Ryan Giggs a Luis Enrique yn eu dewis heno.

Am 7.45yh yng Nghaerdydd mi fydd Cymru a Sbaen yn cyfarfod am y tro cyntaf ers 1985, pan enillodd Cymru o dair gôl i ddim ar y Cae Ras, Wrecsam.

Roedd gan Gymru gyfoeth o chwaraewyr profiadol bryd hynny gyda Mark Hughes yn sgorio un gôl, a Ian Rush yn hawlio dwy i’w enw.

Cymru

Gyda Ryan Giggs yn pwysleisio pwysigrwydd Ethan Ampadu a David Brooks i ddyfodol pêl-droed Cymru, mae’r ddau yn siŵr o chwarae rhan amlwg.

Mi fydd Chris Mepham, Harry Wilson, a Tyler Roberts, tri sydd wedi perfformio’n wych i’w clybiau yn ddiweddar, yn siŵr o fod ar feddwl Ryan Giggs hefyd.

Nid yw Gareth Bale wedi dychwelyd o anaf, ond y gobaith yw y bydd ar gael ar gyfer gêm Gweriniaeth Iwerddon ddydd Mawrth (Hydref 16).

Mae anaf Joe Ledley hefyd yn golygu nad yw’r canolwr wedi cael ei gynnwys yn y tîm.

Sbaen

Mi fydd Sbaen yn gobeithio arbed ychydig o’u tîm nhw cyn gêm fawr yn erbyn Lloegr yng Nghynghrair y Cenhedloedd yr wythnos nesaf.

Nid yw seren Sbaen, Isco, na Sergi Roberto ar gael i reolwr Sbaen, Luis Enrique.

Mae’n golygu bod Jonny o Celta Vigo wedi cael ei alw am y tro cyntaf i’r tîm cenedlaethol.