Ddyddiau’n unig ar ôl cael ei gysylltu â swydd rheolwr Aston Villa, mae Thierry Henry yn cael ei gysylltu bellach â swydd rheolwr Monaco.

Cafodd y Ffrancwr ei hyfforddi i ennill ei fathodynnau hyfforddi gan is-reolwr Cymru, Osian Roberts.

Cafodd ei gysylltu â swydd rheolwr Aston Villa ar ôl i Steve Bruce gael ei ddiswyddo’r wythnos ddiwethaf, ond bellach mae ei enw’n cael ei gysylltu â Monaco wrth i’r dyfalu am ddyfodol Leonardo Jardim barhau.

Thierry Henry yw is-reolwr Gwlad Belg ar hyn o bryd, sy’n cael eu rheoli gan gyn-reolwr Abertawe, Roberto Martinez.