ByddCymdeithas Bel-droed Cymru yn asesu ffitrwydd Gareth Bale cyn y gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen nos Iau yma a’r gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon wythnos i nos Fawrth (Hydref 16).

Cafodd yr ymosodwr 29 oed ei gyfnewid yn yr 80fed munud wrth i’w dim, Real Madrid, golli 1-0 yn Alaves yn y La Liga ddydd Sadwrn.

Dywedodd rheolwr Real, Julen Lopetegui: “Roedd gan Gareth anaf, felly roedd yn rhaid inni wneud penderfyniadau yn ymwneud a newidiadau.”

Ond fe ymunodd Gareth Bale a charfan Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Mae tîm Sbaen yn debyg o gynnwys nifer o’i gyd-chwaraewyr yn nhîm Real.

Ond os oes ganddo anaf, mae’n bosib na fydd yn chwarae nos Iau yn Stadiwm y Mileniwm oherwydd y gêm bwysig yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon bum niwrnod yn ddiweddarach.

Mae Bale ymysg yr enwebiadau ar gyfer gwobr dynion y Ballon d’or- eleni. Yr enwau eraill sydd wedi eu henwebu ydy ymosodwr Manchester City Sergio Aguero, golgeidwad Lerpwl, Alisson Becker, ymosodwr Real Madrid, Karim Benzema, ac ymosodwr Paris St-Germain Edinson Cavani.

Bydd y cyfan o’r rhestr o 30 o enwebiadau yn cael eu datgelu yn ystod heddiw.