Forest Green 1–1 Casnewydd                                                       

Methodd Mickey Demetriou gyfle gwych i gipio’r tri phwynt wrth i Gasnewydd orfod bodloni ar gêm gyfartal yn erbyn Forest Green Rovers ar y New Lawn yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi deunaw munud pan wyrodd Scot Bennett y bêl i’w rwyd ei hun o ergyd Dayle Grubb.

Roedd Casnewydd yn gyfartal cyn yr egwyl diolch i Padraig Amond, y Gwyddel yn sgorio o groesiad Robbie Willmott.

Yna, daeth cyfle Demetriou i’w hennill hi o’r smotyn hanner ffordd trwy’r ail hanner wedi llawiad Reuben Reid yn y cwrt cosbi, ond anelodd ei gic ym mhell dros y tawst.

Mae’r Alltudion yn llithro i’r trydydd safle yn nhabl yr Ail Adran.

.

Forest Green

Tîm: Sanchez, Shephard, Rawson, Gunning, Mills, Brown (Worthington 82’), Digby, Winchester, Campbell (Morris 62’), Reid, Grubb

Gôl: Bennett [g.e.h.] 18’

Cardiau Melyn: Winchester 4’, Reid 65’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Hornby-Forbes, Demetriou, Franks, Butler, Willmott (Pring 82’), Bennett, Bakinson, Amond, Matt (Harris 90+1’), Semenyo

Gôl: Amond 38’

.

Torf: 3,081