Tottenham 1–0 Caerdydd                                                               

Colli fu hanes Caerdydd wrth iddynt deithio i Wembley i herio Tottenham yn Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sadwrn.

Ymdrech gynnar Eric Dier a oedd unig gôl y gêm wrth i dymor anodd yr Adar Gleision barhau ym mhrifddinas Lloegr.

Wyth munud yn unig a oedd ar y cloc pan aeth Spurs ar y blaen, Dier yn rhwydo wedi i groesiad Kieran Trippier adlamu’n garedig iddo yn y cwrt cosbi.

Bu bron i Josh Murphy unioni pethau i’r ymwelwyr o Gymru hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ond gwnaeth Toby Alderweireld yn dda i gyrraedd y bêl o flaen Junior Hoilett a’i chlirio oddi ar y llinell.

Gwnaeth Sean Morrison yn dda i glirio cynnig Lucas Moura oddi ar yr un llinell gôl yn fuan wedi i’r timau droi, capten Caerdydd gadw ei dîm yn y gêm.

Roedd eu tasg yn un anoddach toc cyn yr awr serch hynny wedi i Joe Ralls dderbyn cerdyn coch braidd yn ddadleuol am drosedd ar Lucas Moura.

Wnaeth hynny ddim atal Morrison rhag dod yn agos at unioni pethau i’r Adar Gleision ychydig funudau’n ddiweddarach ond cafodd ei beniad ei arbed yn dda gan Hugo Lloris.

Dyna’r agaosaf a ddaeth tîm Neil Warnock wrth iddynt golli am y chweched tro mewn wyth gêm. Mae’r canlyniad, ynghyd â gêm gyfartal Huddersfield yn Burnely, yn gadael Caerdydd ar waelod y tabl.

.

Tottenham

Tîm: Lloris, Trippier, Alderweireld, Sanchez, Rose (Davies 88’), Sissoko (Wanyama 85’), Dier, Winks, Lucas Moura, Kane, Son Heung-Min (Lamela 72’)

Gôl: Dier 8’

Cardiau Melyn: Sanchez 51’, Kane 59’, Alderweireld 68’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Camarasa, Arter, Ralls, Murphy, Hoilett (Harris 78’), Paterson (Ward 78’ (Reid 85’))

Cerdyn Coch: Ralls 58’

.

Torf: 43,268