Mae’r heddlu yn ymchwilio wedi i ddyfarnwr cynorthwyol gael ei daro gan wrthrych yn ystod gêm bêl-droed ddydd Sul (Medi 30).

Fe gafodd Calum Spence ei drin yn syth wedi iddo ddioddef anaf i gefn ei ben yn dilyn ymosodiad yn ystod y gêm rhwng Rangers a Livingston yn arena Tony Macaroni.

Tua charter awr i mewn i’r ail hanner, fe gafodd rhywbeth tebyg i ddarn arian ei daflu o’r ardal o’r maes lle’r oedd cefnogwyr Livingston yn sefyll. Ar ôl cael triniaeth, fe lwyddodd Calum Spence i gario ymlaen tan ddiwedd y gêm.

Mae’r heddlu yn trin y digwyddiad fel achos o ymosodiad.