Wrecsam 1–0 Barnet                                                                         

Sgoriodd Stuart Beavon unig gôl y gêm wrth i Wrecsam guro Barnet ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn i gadw eu record gartref di guro yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.

Daeth y gôl holl bwysig dri munud cyn yr egwyl wrth i Beavon orffen yn daclus wedi gwaith creu Chris Holroyd.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw’r Dreigiau’n bedwerydd yn y tabl, ddau bwynt yn unig y tu ôl i Salford ar y brig.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Walker (Young 81’), Maguire-Drew (Rutherford 60’), Summerfield, Pearson, Carrington, Wright, Lawlor, Holroyd (Fondop-Talom 51’), Beavon

Gôl: Beavon 42’

Cerdyn Melyn: Carrington 28’

.

Barnet

Tîm: Cousins, Alexander, Taylor, Tutonda, Jules, Robson, Adams, Sparkes, Barham, Fonguck, Mason-Clark (Kyei 76’)

.

Torf: 4,727