Abertawe 3–0 QPR                                                                             

Cafodd Abertawe fuddugoliaeth gyfforddus wrth iddynt groesawu Queens Park Rangers i’r Liberty yn y Bencampwriath brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Courtney Baker-Richardson yr Elyrch ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i goliau hwyr Connor Roberts a Jay Fulton ddiogelu’r tri phwynt.

Chwarter awr yn unig a oedd ar y cloc pan rwydodd Baker-Richardson ei gôl gyntaf dros y clwb wedi peniad deallus gan ei gyd flaenwr, Oliver McBurnie.

Cafodd Baker-Richardson gyfle euraidd i ddyblu’r fantais ddau funud yn ddiweddarach ond dim ond un gôl oedd ynddi ar yr egwyl.

Yn wir, bu rhaid i’r tîm cartref aros tan chwarter awr o’r diwedd am yr ail gôl wrth i gefnwr Cymru, Roberts, sgorio ei gôl gyntaf yntau i’r Elyrch, yn gorffen yn daclus wedi Gwaith creu Fulton.

Roedd y tri phwynt yn ddiogel wyth munud yn ddiweddarach wedi i Fulton ei hun rwydo’r drydedd yn dilyn rhagor o waith da gan McBurnie.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Graham Potter i’r seithfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Abertawe

Tîm: Mulder, Naughton, van der Hoorn, Rodon, Roberts, Byers (Olsson 84’), Carroll, Celina (Fulton 71’), Grimes, Baker-Richardosn (Fer 71’), McBurnie

Goliau: Baker-Richardson 16’, Roberts 75’, Fulton 83’

.

QPR

Tîm: Lumley, Rangel, Baptiste, Lynch, Bidwell, Eze (Smith 70’), Luongo, Cameron, Freeman (Wszolek 87’), Hemed, Wells (Hall 87’)

Cardiau Melyn: Luongo 26’, Bidwell 29’, Wells 76’

.

Torf: i ddilyn