Mae’n debyg iawn y bydd Aaron Ramsey yn gadael Arsenal wedi i’r clwb benderfynu peidio â chynnig cytundeb newydd iddo.

Bydd cytundeb presennol y chwaraewr canol cae yn dod i ben ar ddiwedd y tymor presennol, ac fe allai’r Cymro ymuno â chlwb arall am ddim Haf nesaf.

Ond fe allai Arsenal ei werthu yn ffenestr drosglwyddo mis Ionawr, er mwyn cael rhywfaint o arian am y chwaraewr maen nhw wedi ei feithrin ers ei brynu am £5miliwn gan Gaerdydd ddegawd yn ôl.

O’r garfan bresennol, Aaron Ramsey yw’r chwaraewr sydd wedi bod gydag Arsenal am y cyfnod hiraf.

Fe sgoriodd y goliau i gipio Cwpan yr FA yn 2014 a 2017.

Yn 27 oed, ni fydd y chwaraewr creadigol yn hesb o gynigion am ei wasanaethau, ac mae sawl si ar y stryd bod AC Milan, Juventus, Man U a Chelsea yn awyddus i’w arwyddo.