Mae Caerdydd yn ail o waelod yr Uwch Gynghrair ar ôl parhau heb ennill yr un gêm ers eu dyrchafiad.

Colli 5-0 gartref yn erbyn Man City ddoe oedd oedd y gweir waethaf iddyn nhw ei dioddef o dan eu rheolwr Neil Warnock sydd yn ei swydd ers dwy flynedd.

Sgoriodd Sergio Aguero, Bernardo Silva ac Ilkay Gundogan gôl yr un yn yr ail hanner, cyn i Riyad Mahrez sgorio ddwywaith ar ôl y toriad.

“Mae’n anodd iawn i ni yn erbyn y timau mawr ar y funud,” meddai Neil Warnock.

“Felly mae’n rhaid inni gael ein pwyntiau yn erbyn y 13 o dimau eraill rydyn ni’n eu chwarae.

“Dyw’r gemau hyn ddim am ddiffinio’n tymor, ond maen nhw’n ergyd.

“Rhaid i’r bechgyn ddod dros y penwythnos a symud ymlaen i’r wythnos nesaf.”