Mae Ethan Ampadu wedi llofnodi cytundeb newydd gyda Chelsea a fydd yn ei gadw yn Stamford Bridge am o leiaf bum mlynedd arall.

Symudodd o Gaerwysg fis Gorffennaf y llynedd, ac fe gafodd ffi o £2.5m ei setlo mewn tribiwnlys fis Ebrill eleni.

Mae’r Cymro 18 oed wedi creu argraff yng nghrys glas Chelsea ac yng nghrys coch Cymru’n ddiweddar. Mae wedi chwarae mewn saith gêm i’w glwb.

Mae’n dweud ei fod yn “hapus a balch” o fod wedi llofnodi cytundeb newydd, ac fe allai gael ei gynnwys yn y garfan i wynebu PAOK o Wlad Groeg yng Nghynghrair Ewropa nos Iau.

Mae rheolwr Cymru, Ryan Giggs wedi bod yn canu ei glodydd yn ddiweddar hefyd, fel un o genhedlaeth ifanc o chwaraewyr newydd y tîm cenedlaethol.