Mae cadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe wedi galw am “undod ac ysbryd” gan y cefnogwyr ar drothwy’r gêm yn erbyn Nottingham Forest heddiw (dydd Sadwrn, Medi 15, 3 o’r gloch).

Huw Jenkins a’r perchnogion Americanaidd, Steve Kaplan a Jason Levien sy’n cael y bai am gyflwr truenus y clwb ar hyn o bryd, a’r cefnogwyr wedi lleisio’u barn yn aml yn ystod gemau y tymor hwn.

Fe fu cryn anfodlonrwydd ymhlith y cefnogwyr ers i’r clwb ostwng o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor diwethaf ac yna wrth weld nifer o brif chwaraewyr y clwb yn cael eu gwerthu unwaith eto.

Mae’r ymadawiadau’n golygu bod nifer o chwaraewyr y tîm dan 23 wedi cael eu dyrchafu i’r tîm cyntaf ond mae hynny i’w groesawu, yn ôl Huw Jenkins.

“Dw i’n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn tynnu sylw at y pleser y mae’n rhaid ein bod ni i gyd yn ei deimlo wrth weld cynifer o’n carfan dan 23 yn camu i fyny i her pêl-droed yn y Bencampwriaeth. Gobeithio, ag ychydig o lwc, y byddan nhw’n parhau i dyfu a datblygu wrth i’r tymor fynd rhagddo.

“Mae Graham [Potter, y rheolwr] wedi dangos cryn ffydd yn y criw o chwaraewyr ifainc sydd gennym yma yn Abertawe bellach a gyda mwy o ffydd a chefnogaeth gan bawb yn y clwb, dw i’n credu y gall yr undod a’r ysbryd yr ydym wedi’u datblygu yn gallu cryfhau.”

Dyddiau da

Wrth groesawu Nottingham Forest i Stadiwm Liberty, mae’r gêm yn debygol o ddod ag atgofion melys yn ôl i’r cefnogwyr, gan mai’r tîm hwn oedd gwrthwynebwyr yr Elyrch yng ngêm gyn-derfynol y gemau ail gyfle yn 2011 pan gafodd y clwb ei ddyrchafu i’r Uwch Gynghrair.

Wrth gofio’n ôl, dywedodd Huw Jenkins, “Mae’n teimlo fel amser maith yn ôl erbyn hyn. Pan dw i’n meddwl am y gemau ail gyfle hynny yn y City Ground ac yma yn y Liberty yn 2011, dw i’n dal i deimlo balchder mawr iawn.

“Heb amheuaeth, roedd yn un o’r amserau gorau dw i’n eu cofio fel cefnogwr Abertawe ers i fi ddechrau gwylio’r tîm dros 50 mlynedd yn ôl.”

Ond er mwyn dychwelyd i’r dyddiau da, mae Huw Jenkins yn rhybuddio bod yr her yn “anferth… ar y cae ac oddi arno”, ond rhybuddia ymhellach y “bydd yr her yn anorchfygol oni bai ein bod yn ei hwynebu gyda’n gilydd gyda chred gilyddol gadarn ac un nod gyffredin”.