Mae dyfodol pêl-droed Cymru yn ddisglair ar ôl penodiad Ryan Giggs yn brif hyfforddwr, yn ôl rheolwr y garfan genedlaethol o dan 21 oed.

Er ei bod yn edrych yn debyg na fydd y tîm o dan 21 oed yn cyrraedd rowndiau terfynol yr Euros yn yr Eidal yr haf nesa’, mae Rob Page yn credu bod Ryan Giggs wedi dod â bywyd newydd i bêl-droed Cymru.

Mae’n dweud bod effaith Ryan Giggs yn cael ei deimlo ar draws y maes, wrth iddo gyflwyno rhai o’i syniadau a’i newidiadau ei hun i garfan Cymru.

“Manwl iawn”

“Mae Ryan eisiau cyflwyno prif egwyddorion ac mae e’n fanwl iawn yn y ffordd y mae e’n gweithio,” meddai Rob Page.

“Mae e eisiau arddwysedd uchel mewn sesiynau hyfforddi, fel mewn gemau, ac mae hynny’n rhoi min cystadleuol i’r angen am fwy o chwaraewyr sydd o’th gwmpas.

“Mae yna newidiadau bach eraill y mae e eisiau eu cyflwyno gyda’r grwpiau oedran a fydd yn helpu gwneud y newid o’r tîm o dan 17 i 21 oed mor llyfn â phosib.

“Felly pan maen nhw’n cyrraedd y tîm cyntaf, fydd e ddim yn wahanol iddyn nhw gan fod ganddyn nhw eisoes ddealltwriaeth o sut mae Ryan yn hoff o weithio.”

Y gêm nesa’

Bydd y tîm o dan 21 oed yn herio Liechtenstein ym Mangor nos yfory (dydd Gwener, Medi 7).

Fe lwyddodd y crysau cochion i guro’r wlad o Ewrop o dair gôl i un fis Hydref y llynedd, ond dim ond un pwynt y maen nhw wedi llwyddo i’w ennill yn ystod eu tri gêm diwetha’ yn nhabl wyth yr Euros.

Bydd tîm cynta’ Cymru yn herio Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno, cyn y gêm yn erbyn Denmarc nos Sul.