Mae tîm pêl-droed Casnewydd yn ail yn yr Ail Adran ar ôl curo Port Vale oddi cartref o 2-1.

Aeth yr Alltudion ar y blaen drwy Scot Bennett ar ôl 18 munud wrth iddo daro pêl lac heibio’r golwr Scott Brown.

Roedd hi’n gyfartal 1-1 pan rwydodd Tom Pope drwy beniad o gic gornel. Mae e bellach wedi sgorio 56 gôl yn Park Vale, sy’n record ar y cae hwnnw.

Rhwydodd y cefnwr chwith, Dan Butler gôl fuddugol y Cymry ar ôl 48 munud wrth ddarganfod cornel chwith isa’r rhwyd.

Gwrthododd y dyfarnwr roi cic o’r smotyn i’r Saeson i unioni’r sgôl pan oedd hi’n ymddangos bod un o’r Alltudion wedi llawio’r bêl, ac fe arhosodd y Cymry’n gryf gydol yr ail hanner i sicrhau’r fuddugoliaeth.