Mae tîm pêl-droed Wrecsam ar frig y Gynghrair Genedlaethol unwaith eto ar ôl curo Aldershot o 2-0 ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Roedd hi’n gyfartal ddi-sgôr ar yr egwyl, ond y Cymry gafodd y gorau o’r ail hanner.

Daeth y gôl gyntaf ar ôl 62 munud, wrth i Stuart Beavon benio’r bêl i’r rhwyd.

Fe wnaeth y Cymry ymestyn eu mantais ar ôl 78 munud, wrth i Jordan Maguire-Drew rwydo’r ail gôl.

Bydd Wrecsam yn croesawu Halifax nos Fawrth (Medi 4), ac mae’r Saeson un pwynt yn unig y tu ôl iddyn nhw yn y tabl.