Mae is-reolwr Cymru wedi canmol y blaenwr Hal Robson-Kanu wrth iddo ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Mae’n “hogyn eitha’ distaw, diymhongar a phersonoliaeth hynod o hoffus”, meddai wrth golwg360, “yn chwaraewr efo cyflymder a chryfder corfforol” ac, yn fwy na dim, “yn chwaraewr oedd yn rhoi’r tîm yn gyntaf”.

“Roeddwn i’n hyfforddwr Cymru am 40 o 42 gêm Hal i Gymru, felly mi wnaethon ni droedio’r un llwybr am flynyddoedd efo’n gilydd. Ac am daith!”

Fe sgoriodd Hal Robson-Kanu bum gôl, gan gynnwys chwip o gôl yn Ewro 2016 yn erbyn Gwlad Belg yn rownd yr wyth olaf – gôl orau’r gystadleuaeth.

Dathlu yn Ffrainc

Mae Osian Roberts yn dali gofio pryd y daeth hi’n glir fod Cymru’n mynd i’r rowndiau terfynol er gwaetha’ colli eu gêm ola’ a phedair blynedd wedi i gyn-reolwr Cymru, Gary Speed, wneud amdano’i hun.

“Dw i’n ei gofio fo’n deud wrtha’i pan oedden ni’n dathlu ar y cae o flaen y Wal Goch yn Croatia ar ôl colli – ond cyrraedd yr Ewros – ein bod ni wedi cyflawni hyn i Gary Speed. Roedd colli Gary wedi dweud arno fo, fel sawl un arall.

“Roedd yr ennyd yna’n deud popeth am Hal, ei amser o mewn hanes oedd hyn ac eto, roedd o’n meddwl am Gary.

“Dw i’n dymuno’r gorau i Hal yng ngweddill ei yrfa ac i’w deulu, a dw i yn hynod o falch o be’ mae o wedi ei wneud dros Gymru a fydd yn aros yn y llyfrau hanes am byth. HALeliwia!”