Mae Paul Dummett wedi cael ei alw’n ôl i garfan bêl-droed Cymru ar gyfer y gêmau yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Ac mae’r blaenwr Hal Robson-Kanu wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r llwyfan rhyngwladol – roedd blaenwr Leeds, Tyler Roberts, wedi ei ddewis yn ei le gyda’r gobaith o ennill ei gap cynta’.

Y trydydd pwynt trafod yw fod Ashley Williams wedi’i ddewis yn y garfan er gwaetha’i dymor siomedig gyda Stoke ond dyw hi ddim yn glir a fydd yr amddiffynnwr canol yn aros yn gapten.

Dewis Dummett?

Fe fydd diddordeb i weld a fydd Paul Dummett yn cael ei ddewis i’r tim – mae’n cael tymor da gyda Newcastle United ac yn gallu chwarae i Gymru trwy ei daid.

Dydy’r amddiffynnwr ddim wedi chwarae’n rhyngwladol ers tair blynedd, ac roedd wedi cyhoeddi’r llynedd nad oedd e ar gael i Gymru bellach am ei fod yn canolbwyntio ar gynrychioli Newcastle.

Ond roedd e’n mynnu ar y pryd nad oedd e’n ymddeol yn barhaol ac fe gyhoeddodd ynghynt yn y mis ei fod wedi ailfeddwl.

Y gystadleuaeth

Bydd y gêm yn erbyn y Gwyddelod yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fedi 6 am 7.45, tra bydd y garfan yn teithio i Aarhus dridiau’n ddiweddarach i herio Denmarc (5 o’r gloch).

Yn ystod y gystadleuaeth a fydd yn cael ei chynnal rhwng Medi a Thachwedd, fe fydd y timau’n cystadlu mewn pedair cynghrair – A i D – sydd wedi’u dewis ar sail y rhestr ddetholion bresennol.

Fe fydd pedwar grŵp ym mhob cynghrair, a thimau’n cael dyrchafiad neu’n gostwng o’r gynghrair. Fe fydd y canlyniadau’n cyfri tuag at gêmau rhagbrofol Ewro 2020 a Chwpan y Byd 2022, a thimau’n cael eu gosod mewn potiau ar sail eu canlyniadau. Bydd y gystadleuaeth yn ailddechrau bob dwy flynedd.

Bydd enillwyr pob cynghrair yn symud ymlaen i’r rownd gyn-derfynol ar ôl chwarae yn erbyn ei gilydd gartref ac oddi cartref.

Y garfan: W Hennessey, D Ward, A Davies, C Gunter, C Roberts, J Chester, A Williams, C Mepham, T Lockyer, B Davies, P Dummett, E Ampadu, J Allen, M Smith, A Ramsey, A King, J Ledley, H Wilson, D Brooks, T Lawrence, D John, B Woodburn, G Bale, S Vokes, T Roberts