Mae chwaraewr canol cae Cymru, David Brooks wedi cael ei ganmol am ei berfformiad yn ei gêm gystadleuol gyntaf yng nghrys Bournemouth yn erbyn Caerdydd brynhawn Sadwrn.

Talodd Bournemouth £10m i’w ddenu o Sheffield United, ac roedd Eddie Howe, rheolwr Bournemouth, wedi’i blesio gan yr hyn welodd e yn y fuddugoliaeth o 2-0.

Roedd e eisoes wedi dangos ei ddoniau yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Marseille cyn dechrau’r tymor.

Dywedodd Eddie Howe: “Roedd David yn haeddu dechrau ar sail y perfformiad hwnnw, ac ro’n i wedi fy mhlesio’n fawr gan ei gyfraniad.

“Ydy, mae e’n ifanc, ond mae e’n dalentog a dw i’n credu eich bod chi wedi cael cip ar ei botensial.

“Dw i wedi fy mhlesio’n fawr ganddo fe.”