Gall tîm pêl-droed Caerdydd ymdopi yn Uwch Gynghrair Lloegr, yn ôl y rheolwr Neil Warnock.

Daw ei sylwadau ar ôl iddo wylio’i dîm yn colli eu gêm gyntaf o 2-0 yn Bournemouth brynhawn Sadwrn.

Ychydig iawn o gyfleoedd gafodd y Cymry i sgorio, ac fe ildion nhw goliau i Ryan Fraser a Callum Wilson i golli cyfle i ddechrau eu hymgyrch yn gryf.

Bu bron i’r Adar Gleision unioni’r sgôr i 1-1 yn yr ail hanner diolch i’r capten Sean Morrison ar ôl i Callum Wilson fethu o’r smotyn yn yr hanner cyntaf.

‘Dim byd i’w ofni’

Yn ôl Neil Warnock, mae angen i’w chwaraewyr gredu y gallan nhw gystadlu ar y lefel uchaf.

“Dw i’n credu ar ddechrau’r gêm fod un neu ddau yn nerfus ond wrth i’r gêm fynd rhagddi, roedden ni’n meddwl, “Uffern dân, dyw e ddim mor dda â hynny, nac ydy?”

“Does dim byd gyda ni i’w ofni, wir.

“Ychydig yn fwy clinigol, ychydig mwy o safon mewn rhai llefydd, a dw i’n credu y gallen ni fod wedi’u profi nhw dipyn mwy, ond fe fydd gwaith yn cael ei wneud ar hynny.”