Y chwaraewr canol cae o’r Iseldiroedd, Leroy Fer yw capten swyddogol newydd Clwb Pêl-droed Abertawe.
Mae’n olynu Angel Rangel, oedd wedi gadael y clwb dros yr haf yn dilyn cwymp yr Elyrch i’r Bencampwriaeth.
Iseldirwr arall, yr amddiffynnwr canol Mike van der Hoorn, yw’r is-gapten newydd, ac roedd e wrth y llyw neithiwr ar gyfer y fuddugoliaeth o 2-1 oddi cartref yn Sheffield United.
Mae Leroy Fer yn gwella o anaf i’w goes.
Yn dilyn y gêm, daeth cadarnhad o’r penodiadau gan y rheolwr newydd, Graham Potter, a gafodd ei benodi’n olynydd i Carlos Carvalhal cyn dechrau’r tymor.
Canmol y ddau
Yn dilyn y penodiadau, dywedodd Graham Potter, “Fe wnes i asesu’r grŵp a’r ddau hynny oedd yn ymddangos fel y dewisiadau cywir i fi.
“Mae Leroy a Mike wedi bod yn wych ers i fi ddod i mewn.
“Mae Mike wedi fy mhlesio i fel cymeriad ac fel chwaraewr hefyd.
“Dyw hyn ddim yn rhywbeth mae e wedi’i wneud o’r blaen, ond dw i’n credu bod y rôl yn un y bydd yn tyfu i mewn iddi.”