Cyffyrddiad cyntaf Yan Dhanda mewn gêm gynghrair sicrhaodd y fuddugoliaeth i Abertawe o 2-1 oddi cartref yn Sheffield United.

Roedd yr Elyrch ar ei hôl hi ar ôl 62 munud, wrth i Enda Stevens groesi i gyfeiriad George Baldock.

Ond tarodd yr Elyrch yn ôl pan rwydodd Oli McBurnie wedi 71 munud.

Ac fe ddaeth Yan Dhanda oddi ar y fainc i sgorio’r gôl fuddugol gyda’i gyffyrddiad cyntaf yng nghrys Abertawe, a hynny ar ôl 85 munud. Fe rwydodd e oddi ar groesiad Jefferson Montero, sydd newydd ddychwelyd i’r clwb ar ôl cyfnod i ffwrdd ar fenthyg yn Sbaen ac yna yn Ecwador.

Doedd dim cyfle i Ben Woodburn, y Cymro, i serennu ac yntau newydd symud ar fenthyg i Sheffield United o Lerpwl.

‘Ansawdd a chymeriad’

Ar ddiwedd y gêm, oedd yn fyw ar SKY Sports, dywedodd Graham Potter: “Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi gwneud yn dda iawn.

“Roedd hi’n anodd, ond fe wnaethon ni eu cyfyngu nhw yn yr hanner cyntaf ac yn yr ail hanner, fe ddangoson ni gryn ansawdd a chymeriad.

“Roedd y gôl yn ergyd i ni ac mae gyda chi ddewis wedyn, pa un a ydych chi’n ildio neu’n ymateb. Dydych chi ddim yn gwybod sut mae’n mynd i fynd, ond fe wnaethon nhw barhau a dw i’n hapus iawn gyda nhw.

“Fe wnaeth y bois i gyd ddaeth ymlaen [o’r fainc] greu argraff go iawn. Gall Yan [Dhanda] ddod i fyny a sgorio gôl – mae ganddo fe’r rhinwedd yna.

“Fe weithiodd Oli [McBurnie] yn galed iawn i’r tîm ac roedd e’n haeddu ei gôl.

“Dw i wrth fy modd, wrth gwrs, gyda’r canlyniad ac yn falch iawn gyda nifer o agweddau ar y perfformiad. Mae unrhyw fuddugoliaeth mewn pêl-droed yn anodd, ac mae’n braf pan fo’r cefnogwyr yn mynd adre’n hapus.”

Preston fydd gwrthwynebwyr cyntaf Abertawe ar eu tomen eu hunain yn Stadiwm Liberty, ddydd Sadwrn nesaf (Awst 11) am 3 o’r gloch.

Sheffield United: Henderson, Basham (Duffy, 87), Egan, O’Connell, Baldock, Lundstram (Sharp, 79), Evans, Fleck, Stevens, McGoldrick (Woodburn, 72), Clarke

Goliau: Baldock (62)

Abertawe: Nordfeldt, Roberts, van der Hoorn, Fernandez, Olsson (Grimes, 72), Celina, Fulton (Dhanda, 85), Carroll, Asoro (Montero, 63), McBurnie, McKay

Goliau: McBurnie (71), Dhanda (85)

Torf: 24,654