Cafodd Casnewydd grasfa o 3-0 oddi cartref ym Mansfield yn yr Ail Adran ar ddiwrnod cynta’r tymor pêl-droed newydd.
Aeth y Saeson ar y blaen ar ôl 12 munud, diolch i Tyler Walker er i Joe Day wneud cyfres o arbedion yn ystod y chwarae cyn y gôl.
Fe allai’r Saeson fod wedi dyblu eu mantais cyn yr egwyl, ond fe darodd Craig Davies y postyn.
Daeth yr ail gôl ar ôl 56 munud, wrth i groesiad Tyler Walker ddarganfod Otis Khan, a beniodd y bêl i’r rhwyd. Ac fe ddaeth ei ail gôl ar ôl 64 munud gydag ergyd o 25 llathen i’w gwneud hi’n 3-0.
Doedd naw munud o amser ychwanegol – o ganlyniad i anaf i’r dyfarnwr cynorthwyol – ddim yn ddigon i Gasnewydd allu darganfod y rhwyd.
Mansfield: Logan, White, Preston, Pearce, Hamilton, MacDonald, Bishop, Khan (Butcher, 75), Benning, Walker (Mellis, 90+4), Davies (Graham, 90)
Goliau: Walker (12), Khan (56, 64)
Cardiau melyn: Bishop
Casnewydd: Day, Hornby-Forbes, Demetriou, Franks, Butler, Crofts (Sheehan, 59), Bennett, Dolan, Marsh-Brown (Cooper, 72), Amond, Matt (Semenyo, 59)
Torf: 4,423