Fe lwyddodd y Seintiau Newydd i gael gêm gyfartal 1-1 oddi cartref yn Gibraltar neithiwr, sy’n golygu eu bod nhw yn mynd ymlaen i’r drydedd rownd o gemau cymhwyso ar gyfer Cynghrair Ewropa.

Roedd pencampwyr Cymru eisoes wedi curo Lincoln Red Imps 2-1 yn y cymal cyntaf gartref, ac roedd y gêm gyfartal yn Gibraltar neithiwr yn ddigon i warchod eu mantais.

Ar ôl ildio gôl yn yr hanner cyntaf, fe sgoriodd Dean Ebbe gôl hwyr i sicrhau bod y Seintiau yn parhau yn Ewrop.

Fe fyddan nhw yn wynebu Midtjylland o Ddenmarc nesaf, ac yn chwarae’r cymal cartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau.