Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Ashley Williams wedi symud ar fenthyg i Stoke am dymor cyfan.

Doedd e ddim yn debygol o gael ei gynnwys yn y tîm ar ddechrau’r tymor o dan y rheolwr newydd, Marco Silva.

Symudodd e o Abertawe i Everton yn 2016.

Mae Stoke yn dechrau ar eu tymor cyntaf yn y Bencampwriaeth o dan eu rheolwr newydd, Gary Rowett, a hynny ar ôl iddyn nhw ddisgyn o’r Uwch Gynghrair.

Wrth drafod y trosglwyddiad, dywedodd Gary Rowett: “Mae gyda ni ddau amddiffynnwr canol profiadol a da iawn, Ryan Shawcross a Bruno Martins Indi, ond ro’n i’n teimlo ei fod yn bwysig i ni ddod â chwaraewr profiadol arall i mewn i ychwanegu at y gystadleuaeth am lefydd.

‘Pwynt i’w brofi’

Ychwanegodd Gary Rowett: “Ar ôl siarad ag Ashley, mae e’n teimlo fod ganddo fe bwynt i’w brofi ac mae ysfa y tu mewn iddo fe.

“Mae e’n adnabod nifer o’n chwaraewyr ni, ac yn gwybod sut glwb ydyn ni, ac fe fydd e’n ffitio i mewn i’n diwylliant ni ar unwaith.

“Mae e wedi mynd am arian mawr yn y gorffennol ac mae e wedi cael gyrfa wych hyd yn hyn, a gall profiad yn y safle hwnnw fod yn allweddol oherwydd fe all eich helpu chi go iawn i ddarllen y gêm.”