Wrth i Glwb Pêl-droed Abertawe baratoi i ddechrau eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth o dan arweiniad y rheolwr newydd Graham Potter, daeth cadarnhad bod yr amddiffynnwr Alfie Mawson wedi ymuno â Fulham.

Bydd Abertawe’n teithio i Sheffield United ddydd Sadwrn ar ddiwrnod cynta’r tymor newydd.

Mae Alfie Mawson wedi llofnodi cytundeb pedair blynedd, ond dydy’r union ffi ddim wedi cael ei gadarnhau.

Mae’r trosglwyddiad yn golygu ei fod e’n dychwelyd i’r Uwch Gynghrair unwaith eto yn dilyn dyrchafiad ei glwb newydd, a’i fod e hefyd yn dychwelyd i’w wreiddiau, ac yntau wedi dechrau ei yrfa gyda Brentford cyn symud i Barnsley.

Yn ei ddau dymor gydag Abertawe, cafodd ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yr Elyrch yn ei dymor cyntaf, a chael ei alw i garfan Lloegr yn ystod ei ail dymor, er nad yw e wedi ennill ei gap cyntaf eto.

‘Prosiect cyffrous’

Yn dilyn ei drosglwyddiad, dywedodd Alfie Mawson wrth wefan ei glwb newydd ei fod yn ymuno â “phrosiect cyffrous” yn Fulham.

 “Roedd y bêl-droed a gafodd ei chwarae’r tymor diwethaf yn hardd i’r llygad ond hefyd yn effeithiol, ac alla i ddim aros i fod yn rhan o hynny a chael dechrau arni.

“Dw i wedi cyffroi o gael bod yn rhan o’r clwb gwych hwn wrth symud ymlaen, a gobeithio y galla i eu helpu nhw i gael llwyddiant yn yr Uwch Gynghrair.”

Trosglwyddiadau

 Mae Abertawe eisoes wedi colli nifer o chwaraewyr ar ôl iddyn nhw ddisgyn i’r Bencampwriaeth – gyda Leon Britton, Angel Rangel, Lukasz Fabianski, Roque Mesa a Ki Sung-yueng yn eu plith.

Mae Andre Ayew hefyd wedi symud i Fenerbahce ar fenthyg.

Mae adroddiadau hefyd y gallen nhw golli Sam Clucas i Burnley a Jordan Ayew i Crystal Palace.

Ond maen nhw hefyd wedi arwyddo nifer o wynebau newydd – Jordi Govea o Real Madrid, Yan Dhanda o Lerpwl, Joel Asoro o Sunderland, Barrie McKay o Nottingham Forest a Bersant Celina o Manchester City.

Mae’r rheolwr wedi pwysleisio bod angen bod yn “synhwyrol” wrth brynu chwaraewyr newydd, a bod y clwb ynghanol cyfnod o “ailstrwythuro”.

Sheffield United a Ben Woodburn

 Wrth i Abertawe deithio i Sheffield United (dydd Sadwrn, 5.30), byddan nhw’n herio’r Cymro Ben Woodburn o flaen camerâu SKY Sports.

Ymunodd e â’i glwb newydd ar fenthyg am dymor ddydd Mercher ac mae disgwyl iddo fe chwarae ddydd Sadwrn.

Mae e wedi sgorio un gôl i Lerpwl mewn 11 o gemau, a fe hefyd yw sgoriwr ieuengaf y clwb, ac yntau wedi rhwydo’n 17 oed yn erbyn Leeds yn 2016.

Wrth drafod y chwaraewr, dywedodd rheolwr Abertawe, Graham Potter ei fod e’n “chwaraewr cyffrous” ac yn “ychwanegiad da” i’r garfan.

‘Hunaniaeth a balchder’

Ac wrth edrych ymlaen at ei gêm gyntaf wrth y llyw, ychwanegodd Graham Potter: “Mae yna gyffro, fel y dylai fod.

“Ry’n ni’n mynd i glwb pêl-droed gwych, mae’r gêm yn fyw ar y teledu a dw i’n edrych ymlaen yn fawr ati, a dechrau ar ein taith gydag Abertawe.

“Dw i’n rhan o’r clwb hwn a dw i eisiau dechrau’r broses o gael yr hunaniaeth a’r balchder yn ôl.

“Fe fydd yna nerfau, ond fe ddylech chi deimlo hynny bob amser. Dyna pam ry’n ni yma, i weithio gyda’r chwaraewyr ac i baratoi ar gyfer gemau.”