Harry Wilson am adael Lerpwl ar fenthyg?

Abertawe, Derby a Stoke ymhlith y clybiau sydd am ei arwyddo

Harry Wilson

Harry Wilson

Mae’n debygol y bydd y Cymro 21 oed, Harry Wilson yn gadael Lerpwl ar fenthyg ar drothwy’r tymor newydd.

Ymhlith y clybiau sydd wedi mynegi diddordeb yn yr asgellwr mae Abertawe, Derby a Stoke.

Treuliodd e gyfnod ar fenthyg yn Hull y tymor diwethaf, gan sgorio saith gôl mewn 13 o gemau yn y Bencampwriaeth yn ail hanner y tymor.

Ac fe gafodd e gytundeb newydd yr wythnos ddiwethaf.

Doedd e ddim yng ngharfan Lerpwl ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Bury ddydd Sadwrn.

 

← Stori flaenorol

Cyhoeddi trefn gemau Morgannwg ar gyfer Tlws Bob Willis

Cystadleuaeth gemau pedwar diwrnod yn ôl ardaloedd yn lle’r Bencampwriaeth ddwy adran arferol

Stori nesaf →

Joel Asoro

‘Ffordd Abertawe’ at ddant yr ymosodwr newydd, Joel Asoro

Mae’r ymosodwr ifanc o Sweden wedi ymuno ar gytundeb pedair blynedd

Hefyd →

Cwpan FA Lloegr