Roedd ‘ffordd Abertawe’ o chwarae pêl-droed wedi apelio at eu hymosodwr newydd o Sweden, Joel Asoro, sydd wedi llofnodi cytundeb pedair blynedd.

Dydy’r ffi ar gyfer yr ymosodwr 19 oed ddim wedi cael ei ddatgelu, wrth iddo symud o Sunderland.

Yn ôl yr ymosodwr cyflym, fe fydd symud at Abertawe, fydd yn chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf, yn gymorth iddo ddatblygu ei yrfa.

“Mae’n teimlo’n braf iawn, iawn cael bod yn y clwb hwn,” meddai.

“Dw i wedi gwylio Abertawe’n chwarae yn yr Uwch Gynghrair ac fe wnes i fwynhau eu gweld nhw’n chwarae pêl-droed. Dyna’r ffordd dw i’n hoffi chwarae pêl-droed hefyd.

“Maen nhw’n hoff o gadw eu gafael ar y bêl – mae cael bod yn rhan o dîm [sy’n canolbwyntio ar gadw] meddiant yn rhoi mwynhad.”

Sunderland – a chanmol Chris Coleman

Yn ôl Joel Asoro, roedd y penderfyniad i adael Sunderland yn un anodd, ac yntau wedi bod gyda’r clwb er pan oedd e’n 15 oed.

“Roedd yn anodd, ond ro’n i am gael her newydd.”

Dechreuodd ei yrfa gyda chlwb IFK Haninge cyn symud at IF Brommapojkarna ac yna at Sunderland.

“Ro’n i’n hapus iawn yn Sunderland,” meddai, “ond mae pethau’n digwydd na allwch chi mo’u rheoli.”

Fe ddaeth ei ymddangosiad cyntaf yn yr Uwch Gynghrair yng nghrys Sunderland ym mis Awst 2016, ond mae e hefyd yn canmol cyn-reolwr Cymru, Chris Coleman am ei helpu i ddatblygu ei yrfa.

Roedd e’n wyneb cyfarwydd yn nhîm Chris Coleman ar ôl mis Tachwedd y llynedd.

“Roedd yr amser ges i mewn gemau’n dda iawn yn Sunderland.

“Roedd Chris Coleman yn neis iawn i fi o’r diwrnod wnes i gyrraedd. Fe ddywedodd e wrtha i y byddwn i’n cael peth amser mewn gemau.

“Dydych chi byth yn gwybod a fydd e’n digwydd ond diolch byth, fe wnaeth e. Ro’n i’n hapus iawn gyda’r ffordd aeth pethau.”