Mae dyfalu y gallai cyn-brif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement gael ei benodi’n is-reolwr tîm Napoli yn yr Eidal.

Daw’r adroddiadau ar ôl i Carlo Ancelotti gael ei benodi’n rheolwr ar y clwb yn Serie A, prif adran yr Eidal.

Mae Paul Clement, a gafodd ei ddiswyddo gan Abertawe ddechrau’r flwyddyn, bellach yn rheolwr ar Reading.

Ond mae’r Sais wedi cydweithio â Carlo Ancelotti nifer o weithiau yn y gorffennol – gan gynnwys cyfnodau gyda chlybiau Chelsea, Real Madrid, Paris Saint Germain a Bayern Munich.

Roedd adroddiadau’n awgrymu ym mis Mai fod Carlo Ancelotti yn awyddus i fynd â Paul Clement gyda fe pe bai’n cael ei benodi gan Napoli.