Fe gafodd clwb pêl-droed y Bala ₤200,000 am chwarae dwy gêm yn rownd gyn-ragbrofol Cynghrair Europa.

A phe baen nhw wedi mynd trwodd i’r rownd nesa’, mi fydden nhw wedi derbyn ₤230,000 arall.

Er i’r Bala guro Tre Fiori 1-0 neithiwr, roedden nhw wedi colli 3-0 oddi cartref yn y cymal cyntaf yn San Marino.

Methiant y Bala

 Ar ôl colli o 3-0 yn erbyn Tre Fiori yng nghymal cyntaf y rownd yr wythnos ddiwetha’, bu rhaid i fechgyn Colin Caton chwarae gêm dda neithiwr.

Ond er i’r bêl fod yn eu meddiant am y rhan fwya’ o’r gêm, ni ddaeth gôl tan ganol yr ail hanner, gyda Nathan Burke yn sgorio.

Roedd angen dwy gôl ychwanegol ar y clwb er mwyn sicrhau lle yn y rownd nesa’.

Mi fydd Tre Fiori felly yn mynd yn eu blaenau i herio NK Rudar Celenje o Slofenia yn y rownd ragbrofol.