Fe fydd FIFA yn ystyried y protocol ar gyfer cyfergyd ar ôl i dîm pêl-droed Moroco roi caniatâd i un o’u chwaraewyr chwarae mewn gêm yng Nghwpan y Byd bum niwrnod yn unig ar ôl iddo gael ei anafu.

Daeth Nordin Amrabat oddi ar y cae yn y gêm gyntaf yn erbyn Iran yn Rwsia, ond fe gafodd ei ddewis eto i herio Portiwgal ddydd Mercher.

Mae arbenigwyr wedi beirniadu’r penderfyniad, gan ddweud y dylai fod wedi cael gorffwys am wythnos gyfan, yn unol â chanllawiau FIFA.

Fe ddaeth i’r cae yn yr ail gêm yn gwisgo cap rygbi am ei ben – ond fe wnaeth ei dynnu ar ôl 16 munud.

Cosb?

Mae pennaeth pwyllgor meddygol FIFA, Michel d’Hooghe wedi awgrymu y gallai Moroco gael eu cosbi yn dilyn yr helynt.

Dywedodd wrth y Mail on Sunday: “Pan welais i’r hyn oedd wedi digwydd, nid yn unig y ces i fy synnu ond fe ges i fy siomi hefyd ac ro’n i’n grac iawn.

“Mae meddygon yr holl dimau’n gwybod yn iawn beth ddylai ddigwydd, ond roedd ymddygiad Moroco yn groes i’n canllawiau ni.

“Roedden ni’n credu bod gyda ni ddigon o rym gyda’r canllawiau hyn, ond mae’n ymddangos bellach nad yw hynny’n wir.

“Efallai bod angen i ni fynd gam ymhellach a chyflwyno cosb os nad yw’r canllawiau’n cael eu dilyn.”