Gyda Chymru ddim yn cymryd rhan yng Nghwpan y Byd Pêl-droed yn Rwsia (sy’n dechrau heddiw, Mehefin 14) fe fydd yna Gymro o Gaerdydd yn mentro yno gyda’i deulu.

Mae Tim Hartley yn dweud ei fod yn “ffodus iawn” i gael tocynnau trwy UEFA, ac mae’n edrych ymlaen at weld gemau Moroco v Iran; Wrwgwai v Sawdi Arabia; Yr Almaen v Sweden; a’r Swistir v Costa Rica.

“Mi fues i yn y gystadleuaeth ddiwetha’ yn Brasil yn 2014,” meddai, “ac roedd o’n brofiad anhygoel.

“Roedd fel eisteddfod o bêl droed, profiad hollol ryngwladol, plant a phobl leol mor falch o weld ni yno, ac rwy’n edrych ymlaen at gael y rhu’n profiad yn Rwsia. Yn sicr bydd rhaid bod yn wyliadwrus, gobeithio bydd dim nonsens, ond mae cyfeillgarwch gan gefnogwyr y gêm yn wych.

“Mae Rwsia wedi neud ymdrech i helpu’r cefnogwyr gyda dim gorfod cael visa ac mae trenau dros nos yn rhad ac am ddim pe bai tocynnau am y gemau ganddo’ch, mae hyn wedi arbed llawer o bres i ni.

“Yn nod personol yw un diwrnod cael gwylio Cymru mewn rowndiau terfynol Cwpan y Byd –  dyna be fydd gwireddu breuddwyd.” Meddai Tim  Hartley

Mae’r gystadleuaeth yn dechrau dydd Iau 14 gyda Rwsia yn erbyn Sawdi Arabia ym Moscow.

Gemau’r teulu Hartley

Moroco v Iran yn St Petersburg, ddydd Gwener, Mehefin 15

Wrwgwai v Sawdi Arabia yn Rostov, ddydd Mercher, Mehefin 20

Yr Almaen v Sweden yn Sochi, ddydd Sadwrn, Mehefin 23

Y Swistir v Costa Rica yn Nizhny Novgorod, ddydd Mercher, Mehefin 27