Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau mai Graham Potter yw eu rheolwr newydd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu tymor cyntaf yn y Bencampwriaeth.

Penderfynodd y clwb na fydden nhw’n adnewyddu cytundeb y rheolwr blaenorol, Carlos Carvalhal ar ôl i’r Elyrch ostwng o Uwch Gynghrair Lloegr ar ddiwedd y tymor.

Mae Graham Potter, sy’n hanu o ganolbarth Lloegr, yn dod i Abertawe o glwb Östersunds yn Sweden, lle enillodd e dri dyrchafiad a chwpan.

Mae e wedi llofnodi cytundeb tair blynedd, ac wedi penodi Billy Reid yn is-reolwr a Kyle Macaulay yn ddadansoddwr recriwtio.