Mae cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi’i benodi’n rheolwr ar dîm Habei China Fortune yng nghynghrair Super League yn Tsieina.

Cafodd ei benodiad ei gadarnhau heddiw ar wefan gymdeithasol Weibo, wrth i’r Cymro olynu cyn-reolwr Man City, Manuel Pellegrini, sydd wedi’i benodi’n rheolwr ar West Ham.

Cafodd Chris Coleman ei ryddhau o’i gytundeb gyda Sunderland ar ddiwedd y tymor ar ôl iddyn nhw ostwng i’r Adran Gyntaf, a hynny ar ôl llai na thymor cyfan wrth y llyw.