Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gobeithio y bydd cefnogwyr yn teithio i Stadiwm Liberty, Abertawe heno (nos Iau, Mehefin 7) yn eu niferoedd i wylio tîm merched Cymru yn erbyn Bosnia yn un o gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Un sy’n bendant yn bwriadu bod yno ydi Hales Evans o Gaerdydd, gan y bydd yn gwneud y daith i lawr yr M4 ac yn gobeithio am ganlyniad gwych arall i dîm Jayne Ludlow.

“Mi wna’ i wylio pêl-droed yn unrhywle, a rhyw deng mlynedd yn ôl ers i mi weld fy ngêm gyntaf merched Cymru, roeddwn wth fy modd a dw i wedi bod yn ffyddlon i’r tîm ers hynny.”

Gêm Lloegr

“Roedd y gêm olaf yn Southampton yn erbyn yr elyn Lloegr yn anferth,” meddai Hales Evans.

“Mi wnes i drefnu bws o Gaerdydd, ac roedd pawb jyst yn gobeithio na fasan ni’n colli’n drwm. Ar y noson, roedd y merched yn wych… a pwy a ŵyr be fasa wedi digwydd os fasa ergyd Natasha Harding ar ôl naw munud wedi sefyll.

“Roedd yr awyrgylch yn wych, ac roedd pawb yn gweld rhwystredigaeth tîm a chefnogwyr Lloegr. Ers talwm, roedd Cymru yn hawdd chwarae yn erbyn ond oedd ein rheolwr Jayne Ludlow gyda chynllun a dim ots am y Saeson roedden yn haeddu pwynt – a’ i mor bell â dweud mai’r canlyniad hwn oedd un o rai gorau Cymru erioed ac mae hyn yn cynnwys y dynion – un arddeg arwres heb os ac oni bai.

“Mae’r sylw wedi bod ar y gôl geidwad Laura O’Sullivan ac roedd yn ardderchog ar y noson.

“Mae’r gêm yn erbyn Bosnia yn un ddyrys, gall fynd unrhyw ffordd, ond mi guron ni nhw oddi cartref a gêm gyfartal allan yn Rwsia, felly dim isio bod ofn unrhyw dim rŵan.

“Pe baen ni’n cael chwe phwynt o’r ddwy gêm, hyn bydd pwysau ar Loegr yn y gêm olaf diwedd Awst, ond yn sicr na fyddan yn cymryd ni’n ysgafn. Rwy’n sicr bod proffil y tîm wedi codi ar ôl y  gêm ddiwethaf, roedd y sylw ar y rhwydweithiau  cymdeithasol yn wych.”

Fe Wales

Ar ben cefnogi tîm y merched ar dynion mae’r ferch  o Gaerdydd wedi sefydlu busnes dillad a bagiau fe Wales i ferched yn cynnwys crysau T sy’n talu teyrnged  i Joe Ledley a Chris Gunter.

“Roedd bwlch yn y farchnad, roedd yn amhosib cael dillad merched yn ffitio, felly mi wnes benderfynu neud rhywbeth amdano.

“Rwy’n dylunio crysau-T gyda themâu am y chwaraewyr a cheisio dod â thipyn o hwyl i’r fenter. Rwy’n eithaf hapus a sut mae wedi mynd ac rwy’n cynllunio tair thema newydd yn barod am y gemau dynion nesaf.

“Roeddwn yn yr Ewros yn Ffrainc yn 2016 a gobeithio byddai’n mynd nôl yno haf nesaf i’r rowndiau terfynol Cwpan y Byd Menywod –  ond cyn hynna byddai’ drawn yn Denmarc ac Iwerddon yn cefnogi’r dynion.

Pryd a lle

Cymru v Bosnia –  Abertawe, Mehefin 7, cic gyntaf 7yh

Cymru v Rwsia –  Casnewydd, Mehefin 12, cic gyntaf 7yh