Mae rheolwr tîm pêl-droed Southampton, y Cymro Mark Hughes wedi llofnodi cytundeb tair blynedd ar ôl cadw’r tîm yn Uwch Gynghrair Lloegr ar draul Abertawe.

Cafodd ei benodi dros dro ym mis Mawrth, ynghyd â’i gynorthwywyr ffyddlon, Mark Bowen ac Eddie Niedzwiecki.

Bydd y cytundeb newydd yn ei gadw yn St Mary’s tan 2021.

Roedd y tîm un pwynt uwchlaw’r tri safle isaf pan gafodd Mark Hughes ei benodi, a hynny ar ôl iddo fe gael ei ddiswyddo gan Stoke yn gynharach y tymor hwn.

Enillodd y tîm dair gêm allan o ddeg o dan ei reolaeth, gan gynnwys y fuddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Abertawe yn y gêm olaf ond un – canlyniad oedd fwy neu lai wedi selio tynged y Cymry.