Gall teithio’n bell helpu tîm pêl-droed Cymru yn y tymor hir, yn ôl y cefnwr de, Chris Gunter.

Mae’r garfan wedi teithio i’r Unol Daleithiau, lle byddan nhw’n herio Mecsico ddydd Mawrth, ac maen nhw eisoes wedi bod yn China ers i Ryan Giggs gael ei benodi’n rheolwr.

Dywedodd Chris Gunter fod y teithiau wedi rhoi mwy o amser i’r garfan baratoi ar gyfer gemau, gan eu bod nhw wedi treulio mwy o amser gyda’i gilydd o ganlyniad.

“Gall Ryan ddod i’n hadnabod ni a phan ydych chi i ffwrdd, rydych chi gyda’ch gilydd am fwy o amser ac mae hynny’n torri’r garw, os liciwch chi.

“Weithiau mae’n braf teithio’n bellach lle mae eich amgylchfyd yn wahanol a’r sefyllfaoedd yn wahanol i’r rhai rydych chi ynddyn nhw fel arfer.

“Dyna’r adegau pan ydych chi’n dysgu mwy ac mae’n dda cael gêm anodd ar ddiwedd wythnos o ymarfer.”

Mecsico

Y gêm yn erbyn Mecsico yng Nghaliffornia yw cyfle olaf Cymru i chwarae cyn iddyn nhw herio Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.

Ond byddan nhw heb Gareth Bale, sy’n paratoi i chwarae yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr gyda Real Madrid yn erbyn Lerpwl nos Sadwrn. Mae Ben Woodburn a Danny Ward yng ngharfan Lerpwl ar gyfer y gêm.

Mae James Chester allan o’r daith hefyd wrth i Aston Villa baratoi i herio Fulham yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth nos Sadwrn.