Mae nifer  o gefnogwyr pêl droed o Gymru yn heidio i ddau le yn y byd y penwythnos hwn.

Rhai yn teithio i America  i wylio Cymru yn erbyn Mecsico; ac eraill yn trio dod o hyd i ffordd o wylio Lerpwl yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn Kiev, yr Wcrain.

Mae Mark Williams, cefnogwr 50 oed o Borthmadog, wedi gweld Lerpwl yn codi’r cwpan yn Istanbul yn 2005, ac roedd yn Athen ddwy flynedd yn ddiweddarach yn eu gweld y crysau cochion yn colli i AC Milan.

Felly, roedd yn rhaid iddo ffeindio’i ffordd i weld ei dim yn ceisio ennill y gwpan am y chweched tro yn Kiev eleni.

“Roedd costau teithio ar awyren yn hurt o ddrud,” meddai wrth golwg360. “Ar un adeg, o’n i wedi penderfynu peidio mynd oherwydd y gost.

“Mae hyd yn oed taith mae’r clwb wedi’i threfnu yn costio £1,050 ac mae hyn syth i mewn ar y diwrnod a hedfan yn ôl yn oriau mân y bore.

“O’n i ar y cyfrifiadur ddydd a nos yn ceisio darganfod modd rhad o gyrraedd Kiev,” meddai wedyn.

“Dw i wedi penderfynu hedfan o Luton ben bore dydd Iau (heddiw, Mai 24) i Kosice yn Slofacia, yno ac yn ôl am £98, ac wedyn dal trên i Kiev am tua £120, gan gyrraedd y brifddinas am 11 o’r gloch fore Gwener.

“Mae rhai yn dweud fy mod i’n hurt, ond dw i’n edrych ar y daith fel antur. Mi fydda’ i’n teithio adref yr un ffordd.”

Wedi cael y byg

Fe aeth Mark Williams i weld ei gêm Lerpwl gyntaf yn 1973. Roedd honno yn erbyn Red Star Belgrade.

“Roedd fy ngêm gynta’ fi yn erbyn tîm o Ewrop, a dw i wedi bod â diddordeb mewn mynd i nifer o gemau Ewropeaidd dros y blynyddoedd,” meddai.

“Mi es i i Auxerre (Ffrainc) yn 1991, a dyna hi wedyn – o’n i wedi cael y byg!”

“Dw i wedi bod i bob gem Ewropeaidd gartref y tymor hwn, ac mi es i dramor i Porto a Roma. Hefyd, mi o’n i wedi trefnu i fynd i Seville, ond wnes i ddim cyrraedd y maes awyr mewn pryd oherwydd problem efo’r car – hunllef!”

Woodburn v Bale

“O ran y gêm yn erbyn Real Madrid (y ffeinal), mi faswn i’n hyderus os fasa hi dros ddau gymal,” meddai Mark Williams.

“Mae gan Madrid brofiad yn y gystadleuaeth yma, ac mae Gareth Bale ar dân ar hyn  o bryd… ond mi fasa hi’n wych pe bai’r Cymro ifanc, Ben Woodburn yn dod ar y cae dros Lerpwl ac yn sgorio’r gôl fuddugol.

“Fasa’r siwrnai drên yn ôl ddim mor ddiflas wedyn.”